Numeri 27:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w frodyr.

10. Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.

11. Ac oni bydd brodyr i'w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w gâr nesaf iddo o'i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i'r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel.

13. Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.

14. Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i'm sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.

15. A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

16. Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,

17. Yr hwn a elo allan o'u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o'u blaen hwynt, a'r hwn a'u dygo hwynt allan, ac a'u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa'r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.

18. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;

19. A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.

20. A dod o'th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.

Numeri 27