Numeri 24:22-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Anrheithir y Ceneaid, hyd oni'th gaethiwo Assur.

23. Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn?

24. Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.

25. A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i'w ffordd yntau.

Numeri 24