Numeri 23:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2. A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3. A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i'm cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.

4. A chyfarfu Duw รข Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.

5. A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

Numeri 23