Numeri 22:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.

15. A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na'r rhai hyn.

16. A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:

17. Canys gan anrhydeddu y'th anrhydeddaf yn fawr; a'r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.

Numeri 22