4. A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.
5. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.
6. Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad;
7. Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i'w chwilio, sydd dir da odiaeth.
8. Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a'n dwg ni i'r tir hwn, ac a'i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mĂȘl.