2. Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau;
3. O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd.
4. A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.
5. A dyma enwau'r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur.
6. O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai.
7. O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab.
8. O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar.
9. O lwyth Sabulon; Elïab mab Helon.
10. O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse, Gamaliel mab Pedasur.
11. O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni.
12. O lwyth Dan; Ahieser mab Ammisadai.
13. O lwyth Aser; Pagiel mab Ocran.
14. O lwyth Gad; Elisaff mab Deuel.