Nehemeia 7:62-68 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

62. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.

63. Ac o'r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.

64. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.

65. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac รข Thummim.

66. Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.

67. Heblaw eu gweision hwynt a'u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.

68. Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a'u mulod yn ddau cant a phump a deugain;

Nehemeia 7