Nehemeia 7:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain.

11. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.

12. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

13. Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain.

14. Meibion Saccai, saith gant a thrigain.

Nehemeia 7