Nehemeia 11:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.

8. Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain.

9. A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas.

10. O'r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin.

11. Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ Dduw.

Nehemeia 11