Nehemeia 11:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i'r bobl.

25. Ac am y trefydd a'u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a'i phentrefi, ac yn Dibon a'i phentrefi, ac yn Jecabseel a'i phentrefi,

26. Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth‐phelet,

27. Ac yn Hasar‐sual, ac yn Beerseba a'i phentrefi,

28. Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi,

29. Ac yn En‐rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

Nehemeia 11