Mathew 9:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llances a gyfododd.

26. A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.

27. A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym.

Mathew 9