Mathew 3:16-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.

17. Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd.

Mathew 3