Mathew 27:64-66 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

64. Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.

65. A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.

66. A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda'r wyliadwriaeth.

Mathew 27