55. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:
56. Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a'i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu:
58. Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi'r corff.
59. A Joseff wedi cymryd y corff, a'i hamdôdd â lliain glân,
60. Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
61. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a'r Phariseaid at Peilat,