Mathew 27:16-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

17. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?

18. Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.

19. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych รข'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o'i achos ef.

20. A'r archoffeiriaid a'r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.

21. A'r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

Mathew 27