Mathew 26:54-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

54. Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?

55. Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, รข chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.

56. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau'r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

Mathew 26