Mathew 24:33-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.

34. Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35. Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36. Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.

37. Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

38. Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch,

39. Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

40. Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

41. Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.

42. Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43. A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

44. Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.

45. Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47. Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.

48. Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;

49. A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;

50. Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;

Mathew 24