Mathew 24:17-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:

18. A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.

19. A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

20. Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth:

21. Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.

22. Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.

23. Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.

24. Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.

25. Wele, rhagddywedais i chwi.

26. Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.

27. Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

28. Canys pa le bynnag y byddo'r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.

29. Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

Mathew 24