Mathew 23:29-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, ac yn addurno beddau'r rhai cyfiawn;

30. Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion รข hwynt yng ngwaed y proffwydi.

31. Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y proffwydi.

32. Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.

Mathew 23