23. Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?
24. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
25. Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?
26. Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd.
27. A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28. Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.
29. Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.
30. A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.
31. Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.