Mathew 2:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef.

14. Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft;

15. Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd, O'r Aifft y gelwais fy mab.

16. Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl รข'r doethion.

17. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd,

18. Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

Mathew 2