Mathew 19:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i'r Iorddonen:

2. A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3. A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?

4. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?

Mathew 19