1. Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilltu;
2. A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned â'r goleuni.
3. Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.