Mathew 15:12-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?

13. Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.

14. Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.

Mathew 15