Mathew 14:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu;

2. Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

3. Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.

4. Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.

Mathew 14