Mathew 13:55-58 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

55. Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, ei frodyr ef?

56. Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57. A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58. Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Mathew 13