36. Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
37. Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
38. Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion sanctaidd.