Marc 8:25-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.

26. Ac efe a'i hanfonodd ef adref, i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.

27. A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?

28. A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o'r proffwydi.

29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw'r Crist.

30. Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano.

31. Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.

32. A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.

33. Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.

Marc 8