Marc 7:22-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd:

23. Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

24. Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig.

25. Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:

26. (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.

27. A'r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.

28. Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae'r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.

29. Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o'th ferch.

30. Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythraul allan, a'i merch wedi ei bwrw ar y gwely.

31. Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis.

32. A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef.

33. Ac wedi iddo ei gymryd ef o'r neilltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â'i dafod ef;

34. A chan edrych tua'r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor.

35. Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur.

36. Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37. A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddariaid glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

Marc 7