Marc 7:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef?

19. Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu'r holl fwydydd?

20. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn.

Marc 7