6. Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
7. Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan;
8. Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i'r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:
9. Eithr eu bod รข sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais.