Marc 6:22-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.

23. Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.

24. A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.

25. Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.

26. A'r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef.

27. Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef.

28. Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddes i'r llances; a'r llances a'i rhoddes ef i'w mam.

29. A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd.

30. A'r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.

Marc 6