Marc 4:37-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38. Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?

39. Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

Marc 4