Marc 3:27-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.

28. Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:

29. Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

30. Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.

Marc 3