Marc 3:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.

2. A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef.

3. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo'r llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.

Marc 3