Marc 16:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd?

4. (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5. Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o'r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.

6. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.

7. Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.

8. Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.

9. A'r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o'r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.

10. Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11. A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12. Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.

13. A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14. Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.

Marc 16