Marc 16:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i'w eneinio ef.

2. Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y daethant at y bedd, a'r haul wedi codi.

3. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd?

4. (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5. Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o'r tu deau, wedi ei ddilladu รข gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.

6. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.

7. Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.

8. Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.

Marc 16