Marc 15:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a'i difenwasant ef.

33. A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

34. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu รข llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

35. A rhai o'r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.

Marc 15