Marc 15:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)

11. A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12. A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?

13. A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.

14. Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.

15. A Pheilat yn chwennych bodloni'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a'r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groeshoelio.

16. A'r milwyr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin;

17. Ac a'i gwisgasant ef รข phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben;

Marc 15