Marc 14:61-69 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

61. Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?

62. A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau'r nef.

63. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64. Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.

65. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r gweinidogion a'i trawsant ef รข gwiail.

66. Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad:

67. A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda'r Iesu o Nasareth.

68. Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.

69. A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt.

Marc 14