46. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.
47. A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.
48. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?
49. Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni'r ysgrythurau.
50. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
51. A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a'r gwŷr ieuainc a'i daliasant ef.
52. A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
53. A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a'r holl archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef.
54. A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân.
55. A'r archoffeiriaid a'r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth; ac ni chawsant.