Marc 14:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono.

24. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer.

25. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

27. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a'r defaid a wasgerir.

28. Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.

Marc 14