Marc 14:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta'r pasg?

13. Ac efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef.

14. A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae'r llety, lle y gallwyf, mi a'm disgyblion, fwyta'r pasg?

15. Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni.

16. A'i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.

17. A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda'r deuddeg.

18. Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a'm bradycha i.

Marc 14