Marc 13:35-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai'r boreddydd;)

36. Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi'n cysgu.

37. A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

Marc 13