2. Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.
3. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrasant ymaith yn waglaw.
4. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrasant ymaith yn amharchus.
5. A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
6. Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
7. Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.
8. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan.