Malachi 3:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a'm hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm.

9. Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon.

10. Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhÅ·; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.

11. Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd.

12. A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.

13. Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?

14. Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd?

Malachi 3