Luc 9:32-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. A Phedr, a'r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.

33. A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i'r cwmwl.

35. A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.

36. Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.

37. A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.

Luc 9