Luc 9:11-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu.

12. A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.

13. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.

14. Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.

15. Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.

16. Ac efe a gymerodd y pum torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod gerbron y bobl.

Luc 9