35. Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36. Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae'r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chytuna รข'r hen.
37. Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, ac efe a red allan, a'r costrelau a gollir.
38. Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a'r ddau a gedwir.
39. Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw'r hen.