Luc 23:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo.

10. A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11. A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12. A'r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.

Luc 23